Anghenion y System:
Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neilltuwyd gan OpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice.org neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.
Yn y gosodiad rhagosodedig, mae cloi ffeiliau wedi ei droi ymlaen yn OpenOffice.org. I'w atal, rhaid gosod yr amrywiolion amgylcheddol priodol SAL_ENABLE_FILE_LOCKING=0 ac allforio SAL_ENABLE_FILE_LOCKING. Mae'r confodion hyn wedi eu galluogi yn ffeil sgript soffice.
Rhybudd: Mae'r nodwedd cloi ffeiliau yn medru achosi anawsterau gyda Solaris 2.5.1 a 2.7 mewn cysylltiad â Linux NFS 2.0. Os yw eich system yn meddu'r paramedrau hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio defnyddio cloi ffeiliau. Fel arall, bydd OpenOffice.org yn atal wrth i chi geisio agor ffeil o gyfeiriadur gosodedig NFS ar gyfrifiadur Linux.
Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestru Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestru'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat Os aethoch heibio i'r cofrestru wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg.
Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich annog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r genhedlaeth nesaf o raglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.
Am gymorth gyda phecyn OpenOffice.org 2.0, darllenwch yr archif i ganfod cwestiynau wedi eu hateb ar restr e-bostio 'users@openoffice.org' ynhttp://www.openoffice.org/mail_list.html. Neu mae modd anfon eich cwestiynau at users@openoffice.org. Cofiwch danysgrifio i'r rhestr i gael ymateb drwy'r e-bost.
Gwiriwch yr adran FAQ ynhttp://user-faq.openoffice.org/.
Mae Safle Gwe OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, sef modd i gofnodi, tracio a datrys gwallau a materion o bryder. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo croeso i adrodd ar wallau all godi ym mhob platfform. Mae adrodd effeithiol ar wallau'n un o gyfraniadau pwysicaf y gall y Gymuned Defnyddwyr ei wneud i ddatblygiad a gwellhad y rhaglenni.
Byddai Cymuned OpenOffice.org yn elwa'n fawr o'ch ymwneud gweithredol yn natblygiad y project cod agored pwysig hwn.
Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o ddatblygiad y pecyn a hoffwn eich annog yn gryf i gymryd mwy o ran gyda golwg ar fod yn gyfranogwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllenwch dudalennau defnyddwyr yn:http://www.openoffice.org
Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda OpenOffice.org 3.0 ac y gwnewch ymuno gyda ni ar-lein.
Cymuned OpenOffice.org
Darnau Hawlfraint 1998, 1999 James Clark. Darnau Hawlfraint 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.